Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Heathers The Musical

13 – 17 Awst 2024

Theatr Donald Gordon

Cyfarchion!

Ar ôl dau dymor llwyddiannus yn y West End, rhediad hir yn The Other Palace ac ennill gwobr WhatsOnStage am y sioe gerdd newydd orau, mae Heathers The Musical, y sioe gerdd roc gomedi ddu sy’n seiliedig ar y ffilm eponymaidd o 1988, yn dychwelyd i Gaerdydd.

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

“Sheer joyful exuberance”

City AM

Mae Veronica Sawyer o Westerberg High yn un arall o’r bobl dawel anadnabyddus sy’n breuddwydio am ddyddiau gwell. Ond pan mae’n ymuno â’r Heathers prydferth a chreulon ac mae’n bosibl y bydd ei breuddwydion am fod yn boblogaidd yn dod yn wir o’r diwedd, mae’r rebel ifanc rhyfeddol JD yn dangos iddi efallai ei bod hi’n lladdfa i fod yn anweledig ond mae bod yn adnabyddus yn waeth byth.

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr
The Stage, The Independent, Daily Telegraph, Metro

Llyfr, cerddoriaeth a geiriau gan Kevin Murphy a Laurence O’Keefe
Wedi’i seilio ar y ffilm a ysgrifennwyd gan Daniel Waters.

Canllaw oed: 14+ (dim plant dan 2 oed). 
Nodwch fod rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.

Mae Heathers the Musical yn cynnwys tawch, synau uchel gan gynnwys ergydion gwn, goleuadau sy’n fflachio a strôb yn ogystal ag iaith gref a themâu aeddfed, gan gynnwys bwlio, llofruddiaeth, hunanladdiad, trais corfforol a rhywiol a chyfeiriadau at anhwylderau bwyta.

Mae gwasanaethau cymorth ar gael ar lefel genedlaethol a lleol – ewch i heathersthemusical.com/support i gael rhagor o wybodaeth.

Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Mer, Iau a Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys un egwyl)

CYNNIG I AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.
Dod yn aelod

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4 o leiaf, Mawrth – Iau (2 bris uchaf)

Trefnu ymweliad grŵp

POBL O DAN 16 OED

Gostyngiad o £10, Mawrth – Iau (2 bris uchaf).

16-30

Gostyngiad o £8, Mawrth – Iau (prisiau 2 + 3).

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon