Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Anrhegion rhamantus

Santes Dwynwen, Dydd San Ffolant, pen blwydd priodas neu ‘jest oherwydd’ – dyma’r holl ysbrydoliaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer anrheg ramantus.

O sioe ballet odidog wedi’i gosod i sgôr bythgofiadwy Tchaikovsky i sioe gerdd gyffrous a hynod ramantus gyda chaneuon serch diamser Whitney Houston – dangoswch iddyn nhw faint maen nhw’n ei olygu i chi gyda rhodd y byddan nhw’n ei chofio am flynyddoedd i ddod. 

 

Caru sioeau cerdd?

The Bodyguard

Mae'r sioe gerdd ryngwladol arobryn The Bodyguard yn ôl! Bydd y Pussycat Doll Melody Thornton* a enwebwyd am wobr Grammy yn chwarae rhan Rachel Marron ac Ayden Callaghan (Emmerdale, Hollyoaks) fel Frank Farmer. The Bodyguard yn cynnwys llu o glasuron poblogaidd o Queen of the Night, So Emotional, One Moment in Time, Saving All My Love, Run to You, I Have Nothing, Greatest Love Of All, Million Dollar Bill, I Wanna Dance With Somebody ac un o'r caneuon mwyaf poblogaidd erioed - I Will Always Love You.

* Melody Thornton will perform the role of ‘Rachel Marron’ at all evening performances only. Cast and performance schedule subject to change without notice. 

24 - 29 Ebrill 2023

Greatest Days

Dewch i fwynhau’r cynhyrchiad newydd syfrdanol hwn o sioe gerdd lwyddiannus Take That, Greatest Days (gyda’r enw blaenorol The Band). Yn dathlu 30 mlynedd ers sengl rhif un cyntaf erioed Take That yn y DU sef Pray, ac yn cyd-daro â rhyddhau ffilm swyddogol o’r sioe gerdd lwyddiannus yn ystod haf 2023, mae Greatest Days yn sicr o fod yn noson wych yn y theatr. Mae Greatest Days yn cynnwys mwy na 15 o ganeuon poblogaidd Take That, ochr yn ochr â stori dwymgalon a doniol am gariad, colled a chwerthin gan yr awdur arobryn Tim Firth.

27 Mehefin - 1 Gorffenaf 2023

Caru dawns?

RAMBERT DANCE IN PEAKY BLINDERS: THE REDEMPTION OF THOMAS SHELBY 

Wedi’i hysgrifennu a’i haddasu ar gyfer y llwyfan gan greawdwr Peaky Blinders Steven Knight, gyda choreograffi a chyfarwyddyd gan Gyfarwyddwr Artistig Rambert Benoit Swan Pouffer, mae’r sioe gyfareddol yma yn cyfuno dawns drawiadol ac athletaidd â dramateiddiad syfrdanol gan gwmni llawn Rambert gyda band byw, cerddoriaeth a gomisiynwyd yn arbennig gan Roman GianArthur a thraciau Peaky eiconig gan Nick Cave and The Bad SeedsRadiohead, Anna Calvi, The Last Shadow PuppetsFrank Carter & The Rattlesnakes a Black Rebel Motorcycle Club.  

21 – 25 Mawrth 2023

Dada Masilo's The Sacrifice

Gyda cherddoriaeth fyw ar y llwyfan, mae The Sacrifice wedi’i ysbrydoli gan The Rite of Spring gan Igor Stravinsky, gan gyfuno treftadaeth Ewropeaidd y darn o gerddoriaeth aruthrol hwn â symudiadau rhythmig a mynegol unigryw ‘Tswana’, dawns draddodiadol Botswana. Gyda phwyslais ar adrodd straeon a defod iachau, mae Masilo a’i dawnswyr yn cyflwyno perfformiad bywiog a fydd yn eich cludo ar daith o emosiynau.

4 + 5 Ebrill 2023

Caru opera?

OPERA CENEDLAETHOL CYMRU: THE MAGIC FLUTE 

Mae The Magic Flute gydag enw da am fod yr opera gyntaf berffaith. Camwch i fyd o ddirgelwch, hud a lledrith ac antur. Gyda ffliwt hudol a chasgliad o glychau hud i’w amddiffyn mae Tamino, ynghyd â’i gyfaill, y Daliwr Adar annwyl, yn cychwyn ar ei daith i achub Pamina o afael swynwr drygionus. Ar y ffordd mae’n dod ar draws cymeriadau bythgofiadwy – o Frenhines y Nos ryfeddol i anifeiliaid sy’n cael eu swyno gan gerddoriaeth. Ond wrth iddo oresgyn cyfres o heriau, nid yw popeth fel y mae’n ymddangos…

5, 11, 15, 16 + 17 Mawrth 2023

OPERA CENEDLAETHOL CYMRU: CANDIDE 

Oherwydd y gymysgfa o ddawn gyfansoddol Bernstein a ffraethineb cignoeth Dorothy Parker, mae Candide yn waith nwyfus sy'n dwyn ynghyd goreuon Broadway, eisin ar gacen opereta a dychan diamser nofel wreiddiol Voltaire. Mae cynhyrchiad newydd WNO yn croesawu tîm penigamp, a enillodd wobr National French Critics yn 2022 am eu cynhyrchiad o The Snow Queen. Mae hefyd yn rhoi bywyd i'r byd dychmygol ac ecsentrig hwn gyda cherddoriaeth ddiweddar, animeiddiadau, dawns a brathiad gwleidyddol.

22 - 24 Mehefin 2023

Caru theatr?

Es & Flo

Gwirionedd cudd. Atgofion sy’n gwanhau. Cariad cadarn.

Syrthiodd Es a Flo mewn cariad yn yr 80au. Maen nhw wedi bod yn byw fel cariadon yn gyfrinachol ers hynny. Wrth i Es fynd yn fwy anghofus o gwmpas y tŷ, mae gofalwr annisgwyl yn cyrraedd.

Pwy anfonodd y fenyw yma? Pam? A allan nhw ymddiried ynddi?

Wrth i'r byd tu allan ddod yn faich arnyn nhw, mae Flo yn ymladd i amddiffyn y bywyd maen nhw wedi’i adeiladu gyda’i gilydd dros 40 mlynedd tu ôl i ddrysau caeedig, ac mae’n wynebu brwydr anoddaf ei bywyd – i ddal gafael yn y fenyw mae’n ei charu.

Gydag atgofion o Wersyll Heddwch Menywod Greenham Common – lle cwrddodd Es a Flo am y tro cyntaf fel ymgyrchwyr – mae’r ddrama newydd yma gan Jennifer Lunn yn dathlu cariad perthynas lesbiaidd hŷn, menywod yn dod at ei gilydd i ymladd dros beth sy'n iawn, a phŵer iachaol teulu dewisol.

Cynhyrchiad gan Ganolfan Mileniwm Cymru yw Es & Flo, sydd wedi’i arwain gan gast a thîm creadigol sydd i gyd yn fenywod, ac mae’n agor yng Nghaerdydd y gwanwyn yma.

28 Ebrill - 13 Mai 2023

THE OCEAN AT THE END OF THE LANE

O ddychymyg Neil Gaiman, awdur poblogaidd Coraline, Good Omens a The Sandman, daw addasiad llwyfan arwyddocaol newydd y National Theatre o The Ocean at the End of the Lane. Mae’r antur wefreiddiol hon o ffantasi, chwedloniaeth a chyfeillgarwch, yn sioe wych pum seren sy’n cyfuno hud a lledrith gyda’r cof mewn campwaith o adrodd stori, sy’n mynd â’r gynulleidfa ar daith epig i blentyndod a oedd unwaith yn angof a’r tywyllwch sy’n llechu gerllaw.

30 Mai - 3 Mehefin 2023

Life of Pi

Mae golygfeydd anhygoel, hud a phypedwaith o’r radd flaenaf yn uno mewn digwyddiad theatraidd unigryw, syfrdanol a rhyfeddol. Dewch i weld enillydd pum gwobr Olivier, gan gynnwys y ddrama orau, a sbectacl y West End ar ei daith gyntaf erioed yn y DU.   

17 - 21 Hydref 2023

Caru cabaret?

GRANDMOTHER’S CLOSET

Wrth dyfu lan mewn cymuned glos yn ne Cymru, dibynodd Luke Hereford ar ei famgu fel codwr hwyl personol i'w dywys drwy ei blentyndod cwiar. Ar ei gamau petrus cyntaf ar hyd yr yellow brick road mae Luke yn herio Broadway, profi ei ddigwyddiad balchder gyntaf a darganfod ei liw lipstic berffaith – gyda cherddoriaeth Madonna, Kylie, Kate Bush a'i holl divas pop yn gefndir.

23 – 26 Chwefror 2023 

Steffan Alun: The Bubble

Comedi stand-yp gwych gan yr optimist o Gymro, Steffan Alun, sy’n siarad am ynysoedd folcanig, ffrindiau o safon wael a phlant pobl eraill. Gyda chefnogaeth gan Cerys Bradley.

16 Chwefror 2023

Caru pob dim?

Enwi Sedd

Ffordd ystyrlon a hirdymor o fynegi eich cariad – cyfle unigryw i arysgrifio eich sedd eich hun, mewn lleoliad o’ch dewis yn ein Theatr Donald Gordon ysblennydd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Tîm Rhoddion Unigol ar 02920 636423 neu ebostio cefnogwyr@wmc.org.uk

Tystysgrifau Rhodd

mae ein Tystysgrifau Rhodd yn ddilys am 18 mis a gellir eu defnyddio ar gyfer unrhyw sioe neu yn ein bariau theatr.