Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

2019: am flwyddyn anhygoel

Mae’n anhygoel faint o sioeau gwych rydyn ni’n llwyddo i’w cyflwyno mewn cwta 12 mis, a doedd 2019 ddim yn eithriad. Dyma edrych yn ôl ar flwyddyn fendigedig gyda chasgliad newydd o’n cynyrchiadau ein hunain a llwyth o sioeau a berfformiwyd ar lwyfan adnabyddus Theatr Donald Gordon.

Ionawr...

Dychwelodd Jersey Boys, stori Frankie Valli & The Four Seasons, i’r Ganolfan yn sgil galw mawr, a llwyddodd i wefreiddio cynulleidfaoedd gyda chaneuon poblogaidd yn cynnwys Beggin’, Can’t Take My Eyes Off You, Walk Like a Man a llawer mwy.

Chwefror...

Lansiwyd Tymor y Gwanwyn Opera Cenedlaethol Cymru gyda chynhyrchiad newydd sbon o Un Ballo in maschera. Dyma dymor anhygoel a barhaodd tan fis Mai!

Mawrth...

Daeth Macbeth – cynhyrchiad epig, beiddgar y National Theatre o drasiedi ddwys Shakespeare – i Gaerdydd yn ystod ei daith o amgylch y DU.

Hefyd ym mis Mawrth, ymunodd Susie Blake a Simon Shepherd â’r cast ar gyfer yr addasiad llwyfan cyntaf erioed o The Mirror Crack’d gan Agatha Christie. Roedd y sioe yma’n gyd-gynhyrchiad rhyngom ni a Wiltshire Creative, a chafodd ei mwynhau gan dros 28,000 o bobl mewn pedair dinas.

Cyrhaeddodd y ‘chuffing brilliant’ Full Monty mewn da bryd ar gyfer twrnamaint rygbi’r Chwe Gwlad, ac roedd yn gyfle perffaith i gael llun gwladgarol gyda seren Gymreig y sioe, Kai Owen. Enillodd Cymru y Gamp Lawn hefyd!

Yr actor Kai Owen yn gwisgo fest gwyn, yn dal fflag Cymru tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru

Cododd y gynulleidfa ar ei thraed i ddawnsio wrth wylio’r sioe anhygoel Motown the Musical. Darllenwch fwy yn ein blog Motown.

Ebrill...

Daeth Mark Morris, y coreograffydd Americanaidd, â Pepperland i’r Ganolfan – teyrnged unigryw i un o’r albymau mwyaf poblogaidd erioed, sef Sgt. Pepper’s Lonely Hearts Club Band gan The Beatles, ac roedd yna lwyth o resymau dros ddod i’w gweld hi.

Yn dilyn ffenomen o rediad yn y West End a thaith hynod boblogaidd yn y DU, dychwelodd Alexandra Burke i chwarae rôl Rachel Marron yng Nghaerdydd a gwefreiddiodd y cynulleidfaoedd â’i llais pwerus yn The Bodyguard.

Alexandra Burke yn gwisgo ffrog las, yn dal meicroffon ar y llwyfan yn ystod perfformiad o The Bodyguard The Musical

Daeth Calendar Girls, yn cynnwys cerddoriaeth gan Gary Barlow a Tim Firth, aton ni hefyd gyda chast o sêr a llwyth o flodau haul a ymddangosodd ar draws y llwyfan ac yn ein cyntedd.

Mai...

Newidiodd nosweithiau Sadwrn am byth pan lansiwyd ein profiad ciniawa cabaret, Clwb Swper – yn cynnwys nosweithiau comedi, drag, bwrlésg a theatr gerdd, dwy ddiod am ddim a phlatiau i’w rhannu am £30 yn unig. Cadwch lygad barcud am ragor o’r nosweithiau yma sydd ar y gweill ar gyfer 2020.

Cafodd cynulleidfaoedd eu gwefreiddio gan Joseph and the Technicolour Dreamcoat cyn i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gyrraedd ar ddiwedd mis Mai. Croesawyd cannoedd o bobl ifanc i’r ŵyl, ac roedd miloedd o bobl wedi mwynhau’r golygfeydd o Fae Caerdydd a pherfformio yn ein theatr. Daeth Ryan Giggs a’r actor Iwan Rheon i gwrdd â Mistar Urdd!

Iwan Rheon, seren Game of Thrones yn dal dwylo gyda Mistar Urdd

Mehefin...

Bu Tymor Rhyddid Opera Cenedlaethol Cymru’n archwilio thema hawliau dynol, a hynny drwy gyfres o gynyrchiadau, sgyrsiau, arddangosfeydd a phrofiadau digidol ar draws y Ganolfan.

Daeth Nick Cave i’r Ganolfan i gynnal noson agos-atoch gyda chaneuon a storïau yn theatr Donald Gordon, a pharhaodd Matthew Bourne i wefreiddio cynulleidfaoedd gyda’i ddehongliad cyfoes o glasur Shakespeare, Romeo and Juliet.

Gorffennaf...

Am chwe wythnos dros wyliau’r haf, roedd y Ganolfan yn hafan o weithgareddau am ddim – gyda gweithdai, arddangosfeydd a Gaia, cerflun epig o’r Ddaear. Profodd 3,500 o bobl ein Byd Rhithwir hefyd.

Daeth Kinky Boots, ‘The freshest, most fabulous, feel-good musical of the decade’ (The Hollywood News) aton ni ganol y mis, a daeth y cynhyrchiad â phâr o ‘Kinky Boots’ enfawr, coch i bobl eu trio – roedd y lluniau’n wych! Roedd hi’n sioe hyfryd o dwymgalon.

A bu pobl o bob oed yn mwynhau Madagascar The Musical, yn enwedig ein perfformiad ymlaciedig – perfformiad arbennig gydag awyrgylch gwych. Byddwn yn cynnal mwy o berfformiadau ymlaciedig yn y dyfodol – cadwch lygad ar ein gwefan am fanylion.

Awst...

Daeth Club Tropicana â’r heulwen braf i Gaerdydd, gyda thrac sain gwych o’r 80au a pherfformiadau hwyliog gan Joe McElderry a’i ffrindiau. 

Daeth Annie i’n llwyfan hefyd, yn syth o West End Llundain, gyda thrac sain bythgofiadwy.

Medi...

Daeth Tymor yr Hydref Opera Cenedlaethol Cymru â thri chynhyrchiad ysblennydd i’n llwyfan – Carmen, Rigoletto a The Cunning Little Vixen (roedd Profiad Realiti Estynedig hudolus i gyd-fynd â The Cunning Little Vixen) yng nghyntedd Glanfa.

Poster tymor WNO

Hydref...

Daeth tymor Perfformiadau i’r Chwilfrydig yn ôl gyda dros 30 o gynyrchiadau gwych, ac yn eu plith sawl cynhyrchiad Cymraeg bendigedig.

Roedd digon o gerddoriaeth yn ein rhaglen hefyd, gyda Grease The Musical ac On Your Feet – sioe garu wir Emilio a Gloria Estefan o Giwba i strydoedd Miami ac enwogrwydd byd-eang.

Tachwedd...

Yn serennu Caroline Sheen ac Amber Davies, dwy actores o Gymru, daeth 9 to 5 The Musical atom – y sioe hynod boblogaidd yn seiliedig ar y ffilm eiconig o’r 1980au gyda Dolly Parton a Jane Fonda.

Ac wrth i ni garlamu tuag at y Nadolig, daeth Nativity! The Musical i’n llwyfan i godi gwên.

Rhagfyr...

Gyda miliynau o bobl ledled y byd wedi mwynhau’r sioe, doedd dim syndod bod tocynnau ar gyfer Les Misérables wedi gwerthu mor gyflym pan gyhoeddwyd y byddai’r sioe yn dychwelyd i Gaerdydd. Darllenwch ein blog sy’n trafod pam bod cynifer ohonom ni wrth ein boddau gyda’r sioe eiconig yma.

Golygfa o Les Mis, gyda actorion ar y llwyfan yn chwifio'r fanner goch.

Daeth RED – ein cyd-gynhyrchiad â Likely Story – â dehongliad newydd, hudolus o stori glasurol yr Hugan Fach Goch i’r Ganolfan gyda chreaduriaid rhyfeddol, a Grandma Red hynafol – ac, am y tro cyntaf, roedd y bleiddiaid yn gyfeillgar!

Llun RED gyda dynes mewn clogyn coch â chefndir gaeafol

A dyna gloi 2019! Rydyn ni’n gobeithio i chi fwynhau’r flwyddyn gymaint ag y gwnaethon ni. Cymerwch gipolwg eto’n fuan i weld beth sydd gennym ar y gweill ar gyfer 2020.