Mae’r sioe gerdd fwyaf rhyfeddol erioed yn hedfan i Ganolfan Mileniwm Cymru am bum diwrnod yn unig!
Cynhyrchiad newydd sbon o’r ffefryn teuluol yma gyda Ore Oduba (Pretty Woman, Strictly Come Dancing, The Rocky Horror Show) fel Caractacus Potts a Liam Fox (Emmerdale) fel Grandpa Potts a Charlie Brooks (The Ocean at the End of The Lane, EastEnders) fel y Childcatcher. Wedi’i gyfarwyddo gan Thom Southerland (Titanic, Parade), ei goreograffu gan Karen Bruce (Strictly Come Dancing y BBC, The Bodyguard) a’i ddylunio gan Morgan Large (Newsies, Joseph and the Technicolour Dreamcoat), mae’r sioe gerdd arobryn a chyfareddol yma yn llawn caneuon bythgofiadwy gan y brodyr Sherman gan gynnwys Toot Sweets, Hushabye Mountain, Truly Scrumptious ac wrth gwrs y gân a gafodd ei henwebu am un o wobrau’r Academi, Chitty Chitty Bang Bang.
Yn seiledig ar stori ddiamser Ian Fleming i blant a addaswyd ar gyfer y ffilm enwog o 1968, yn Chitty Chitty Bang Bang rydyn ni’n cwrdd â’r dyfeisiwr anghofus Caractacus Potts sy’n adnewyddu hen gar rasio gyda help ei blant Jemima a Jeremy. Yn fuan, mae’r teulu’n darganfod bod gan y câr bwerau hudol, ac ynghyd â Truly Scumptious, mae’r teulu’n mynd ar antur ryfeddol a doniol i wledydd pell. Mae eu taith dwymgalon yn gwneud Chitty Chitty Bang Bang yn sioe arbennig llawn hwyl i’r teulu cyfan.
Peidiwch â gadael iddi hedfan hebddoch chi!
Canllaw oed: 5+ (dim plant dan 2 oed)
Gall y cynhyrchiad hwn gynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7pm
Maw, Iau + Sad 2pm
Hyd y perfformiad: tua 2 awr a 20 munud (yn cynnwys un egwyl)
Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf, nifer cyfyngedig)
Aelodaeth
GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £3, Maw – Iau (2 bris uchaf)
O DAN 16
Gostyngiad o £10 Maw – Iau (2 bris uchaf)
16–30
Gostyngiad o £8 nosweithiau Maw – Iau (2-3 bris uchaf)
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.