Ydych chi’n cael trafferth meddwl am syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig, neu’n chwilio am rywbeth gwahanol i’w roi eleni? Gyda chynyrchiadau dawns disglair, sioeau cerdd llwyddiannus a panto i’r teulu cyfan, mae gennym rywbeth i bawb.
Les Misérables
Ymunwch â’r chwyldro yn y llwyfaniad newydd sbon yma o sioe gerdd Boublil a Schönberg gyda golygfeydd wedi’u hysbrydoli gan baentiadau Victor Hugo. Mae’r sgôr anhygoel yn cynnwys y caneuon I Dreamed a Dream, On My Own, Bring Him Home, One Day More, Master of the House a llawer mwy. Does dim amheuaeth mai Les Misérables yw un o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd y byd – mae dros 120 miliwn o bobl ar draws y byd mewn 52 o wledydd ac mewn 22 o ieithoedd wedi ei gwylio.
Bugsy Malone
Efrog Newydd, cyfnod y Gwahardd. Mae’r penaethiaid gangiau Fat Sam a Dandy Dan yn benben â’i gilydd. Mae’r peis cwstard yn hedfan ac mae gang Dandy Dan ar y blaen ers cael gafael ar y gwn “splurge” newydd. Yna daw Bugsy Malone, bocsiwr untro heb yr un geiniog a dyn neis iawn. A fydd yn gallu aros allan o drafferth am ddigon hir i helpu Fat Sam i amddiffyn ei fusnes?
Strictly Ballroom: The Musical
Yn seiliedig ar y ffilm Baz Luhrmann ac yn cynnwys ffefryn pawb o Strictly Come Dancing Kevin Clifton* a Maisie Smith o Eastenders, bydd y sioe wefreiddiol a bywiog hon yn siŵr o fod yn noson fythgofiadwy o dan y bêl gliter. Wedi’i chyfarwyddo a’i chyd-goreograffu gan Craig Revel Horwood, mae’r sioe yn cynnwys y caneuon poblogaidd Love is in the Air, Perhaps Perhaps Perhaps a Time After Time. Nodwch fod y cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith anweddus a rhai themâu rhywiol. Canllaw oed: 12+
*Ni fydd Kevin Clifton yn perfformio ar 23 a 24 Ionawr 2023. Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.
Cynnig Dawns
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth i rywun sy’n hoff o ddawns, mae gennym gynnig gwych i chi. Os byddwch chi’n archebu tocynnau ar gyfer y tair sioe ddawns isod ar yr un pryd, byddwch chi’n cael gostyngiad o 15%.
Matthew Bourne’s Sleeping Beauty – Gyda sgôr bythgofiadwy gan Tchaikovsky, setiau a gwisgoedd ysblennydd, goleuo llawn mynegiant a stori gampus, mae cwmni dawnus New Adventures yn dod â’r chwedl boblogaidd yn fyw.
Rambert Dance in Peaky Blinders: The Redemption of Thomas Shelby – Digwyddiad theatr ddawns newydd, wedi’i ysgrifennu gan greawdwr y gyfres deledu hynod boblogaidd ac yn cynnwys dawns drawiadol ac athletig a dramateiddio syfrdanol gyda cherddoriaeth Peaky eclectig ac eiconig gan fand byw ar y llwyfan.
Dada Masilo’s The Sacrifice – Gyda cherddoriaeth fyw ar y llwyfan, mae The Sacrifice wedi’i ysbrydoli gan The Rite of Spring gan Igor Stravinsky. Gyda phwyslais ar adrodd straeon a defod iachau, mae Masilo a’i dawnswyr yn cyflwyno perfformiad bywiog a fydd yn eich cludo ar daith emosiynol.
DRAG QUEEN WINE TASTING
Prynwch brynhawn ardderchog o anrhefn fendigedig i rywun. Dan arweiniad y seren ryngwladol y mae pawb yn ei hanwybyddu, Vanity von Glow, a’r arbenigwraig gwin enwog, Beth Brickenden, dyma sesiwn blasu gwin tra gwahanol.
Yn dilyn rhediad anhygoel, tu hwnt o boblogaidd yng Ngŵyl Ymylol Caeredin eleni, mae Drag Queen Wine Tasting yn dod i Gaerdydd am y tro cyntaf fel rhan o Cabaret, sy'n agor ym mis Chwefror 2023.
Opera Cenedlaethol Cymru
Mae gan WNO rywbeth at ddant pawb yn ystod tymor y gwanwyn:
Mae Chwarae Opera Yn Fyw: Deinosoriaid Di-Ri yn sioe deuluol hwyliog a rhyngweithiol. Mewn sioe anhygoel sy’n ddifyr ac yn addysgiadol, canwch, dawnsiwch a chlapiwch gyda rhai o’n hoff ddarnau o gerddoriaeth o’r llwyfan a’r sgrin.
Mae Blaze of Glory! yn ddathliad o wlad y gân ac yn cydnabod y gall ysbryd cymunedol oresgyn adfyd. Cewch glywed alawon traddodiadol o Gymru ynghyd â synau a capella o’r 1950au, opereta, gospel a band mawr mewn perfformiad a fydd yn codi calon a gwên.
23 Chwefror, 10, 14 + 18 Mawrth 2023
Mae The Magic Flute yn opera ar gyfer pob oed, gydag enw da am fod yr opera gyntaf berffaith. Mae cynhyrchiad newydd WNO yn cymryd y stori dylwyth deg hudolus hon ac yn rhoi tro modern iddi. Rhowch wledd i’ch llygaid gyda’r setiau a gwisgoedd lliwgar i gyfeiliant cerddoriaeth syfrdanol Mozart a stori ffraeth.
Mother Goose
Mae Syr Ian McKellen a John Bishop yn ymuno i gyflwyno panto doniol i’r teulu cyfan. Mae Mother Goose a’i gŵr yn rhedeg Lloches Anifeiliaid ar gyfer creaduriaid digartref ac yn byw bywyd buddiol mewn Debenhams gwag. Pan fydd gŵydd hudol yn cyrraedd, a fydd cyfoeth a chlod yn mynd yn drech na nhw? Dyma wledd theatrig berffaith – yn llawn hwyl, ffars a syrpreisys a fydd yn gwneud i chi glegar yn uchel. Peidiwch â cholli allan!
Cynnig i bobl o dan 16: gostyngiad o 25% ar docynnau Maw – Iau, uchafswm o 3 tocyn gostyngedig fesul archeb. Rhaid i bobl o dan 16 eistedd gydag oedolyn 18 oed neu drosodd.
Hey Duggee – The Live Theatre Show
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth i deulu ifanc, dyma’r sioe i chi. Mae’r ci mawr hoffus Hey Duggee ar daith am y tro cyntaf erioed a dyma eich cyfle i’w weld! Bydd Duggee a’r Squirrels o sioe boblogaidd CBeebies yn ymddangos yn y cynhyrchiad rhyngweithiol bywiog hwn sy’n llawn cerddoriaeth, pypedau a llond trol o chwerthin ar hyd y ffordd. Mae’n amser am gwtsh Duggee!
£3 i ffwrdd ar docynnau i blant o dan 8 oed a thocynnau £2 i fabanod ar liniau (i blant o dan 2 oed gydag oedolyn yn eu gwarchod).
Gormod o ddewis?
Dim problem – mae ein Tystysgrifau Rhodd yn ddilys am 18 mis a gellir eu defnyddio ar gyfer unrhyw sioe neu yn ein bariau theatr. Neu, i bobl sy’n dod i’r theatr yn aml, cymerwch olwg ar ein cynlluniau aelodaeth. Maen nhw’n cynnig manteision gwych drwy’r flwyddyn fel cyfnodau archebu â blaenoriaeth, gostyngiad o 20% yn ein bariau theatr a Caffi, cynigion arbennig ar docynnau a diweddariadau rheolaidd drwy e-bost. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy arbennig, mae enwi sedd yn ein hawditoriwm eiconig yn ffordd unigryw a hirdymor o fynegi eich cariad, dangos eich edmygedd neu ddathlu bywyd.
Cofiwch ymweld â’n Siop newydd hefyd – yn ogystal â nwyddau Canolfan Mileniwm Cymru gan gynnwys bagiau siopa a chrysau t, mae hefyd gennym gynnyrch gan sefydliadau ac artistiaid lleol fel The Printhaus a Fizz Goes Pop.
Hefyd, os byddwch chi’n siopa drwy Amazon eleni, gallwch ein dewis ni fel eich elusen Amazon Smile a’n cefnogi ni heb gost ychwanegol i chi.