Mae'r clociau wedi mynd yn ôl, mae Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt wedi bod – mae'n amser dechrau siopa Nadolig! O sioeau cerdd i sioeau dawns i dalebau rhodd ac opsiynau aelodaeth, gallwn ni eich helpu chi i ddod o hyd i'r anrheg berffaith i'r bobl yn eich bywyd sy'n dwli ar y theatr.
Hwyl teuluol
Rhowch anrheg i'r teulu cyfan drwy ddod â nhw i un o'n sioeau rhyfeddol i bobl o bob oed:
Dihangwch i fyd newydd yn Disney’s Aladdin, sy'n cynnwys yr holl ganeuon o'r ffilm a enillodd wobrau Oscar, gan gynnwys Friend Like Me, Arabian Nights ac A Whole New World.
O archwilwyr i artistiaid, gwyddonwyr i ysbiwyr, dewch i glywed straeon rhai o famau, chwiorydd a merched cryfaf hanes yn y sioe gerdd bop rymusol Fantastically Great Women Who Changed the World, sy’n seiliedig ar y llyfr poblogaidd i blant.
Mae cerddoriaeth, chwerthin, odlau, rhythmau ac ailadrodd ynghyd â phypedwaith, paent, dŵr a mwd – heb sôn am arth – yn gwneud We're Going on a Bear Hunt yn brofiad theatraidd perffaith i deuluoedd ifanc.
Dramâu syfrdanol
O gomedi i ffantasia Gymreig epig, mae gennym ni rywbeth i bawb:
Mae Mischief yn dychwelyd gyda thrychineb catastroffig arall yn Peter Pan Goes Wrong, eu fersiwn dros ben llestri o glasur diamser. Byddwch yn barod am antur enfawr!
Michael Sheen fydd yn chwarae'r prif gymeriad yn Nye, ein cyd-gynhyrchiad gyda'r National Theatre. Mae'r ddrama newydd yma gan Tim Price yn daith swreal ac ysblennydd drwy fywyd a gwaddol y dyn a drawsnewidiodd y wladwriaeth les.
Dawns disglair
Addasiad hudol a dawns gomedi meta:
Yn seiliedig ar ffilm Tim Burton ac yn cynnwys cerddoriaeth brydferth Danny Elfman a Terry Davies, mae Matthew Bourne a’i gwmni New Adventures yn dychwelyd gydag Edward Scissorhands, y stori ffraeth a theimladwy am fachgen anorffenedig yn cael ei adael ar ei ben ei hun mewn byd newydd rhyfedd..
Yn dilyn eu taith Peaky Blinders lwyddiannus, Death Trap yw eich cyfle nesaf i weld dawnswyr campus a beiddgar Rambert. Bydd y sioe yn cynnwys dau ddarn byr sy'n llawn hiwmor tywyll a gwreiddioldeb.
Sioeau cerdd hudol
Hanes pâr drwgenwog, stori wir anhygoel a ffenomenon diwylliannol:
Darganfyddwch y stori wefreiddiol am gariad, antur a throsedd a hoeliodd sylw cenedl gyfan yn Bonnie & Clyde, sy'n dod i Ganolfan Mileniwm Cymru ar ôl dau dymor afreolus yn y West End yn Llundain.
Mae Come From Away yn rhannu stori go iawn anhygoel y 7,000 o deithwyr awyr o bedwar ban byd a gafodd eu hailgyfeirio i Ganada yn sgil 9/11.
Gyda sgôr sy'n cyfuno hip-hop, jazz, blues, rap, R&B a Broadway, Hamilton gan Lin-Manuel Miranda yw stori sefydlwr America Alexander Hamilton, a helpodd i lunio sylfeini’r America rydyn ni’n ei hadnabod heddiw.
Opera Arbennig
Mozart, Britten a ffefrynnau opera:
Ewch yn ôl i’r ysgol gyda chynhyrchiad newydd sbon Opera Cenedlaethol Cymru o opera gomig Mozart Così fan tutte. Wedi’i gosod yn y 1970au cynnar, mae pedwar disgybl chweched dosbarth yn darganfod y gall syrthio mewn cariad fod yn anhygoel, yn lletchwith ac yn gymhleth.
P'un a ydych yn frwd dros opera neu’n awyddus i roi cynnig arni, ymunwch â WNO ar gyfer Ffefrynnau Opera i fynd ar daith drwy rai o’r darnau mwyaf adnabyddus yn y byd operatig, sy’n fwy cyfarwydd nag y byddech yn ei feddwl.
Wedi’i hysbrydoli gan y nofel fer wreiddiol, mae Death in Venice yn dod yn fyw yn y cynhyrchiad newydd yma gan WNO, gan greu delweddau o brydferthwch cyfareddol, yn ogystal ag archwilio’r grotésg sy’n gudd o dan geisio’r aruchel.
Ffiasgo Nadoligaidd
Mwynhewch un sioe Nadoligaidd olaf cyn y flwyddyn newydd gyda'n sioe cabaret Nadolig The First XXXmas: A Very Naughty-tivity. Mae’r tîm a gyflwynodd eu sioeau cabaret Nadolig a werthodd allan, sef XXXmas Carol a The Lion, The B!tch and The Wardrobe, yn ôl, gyda'u cymysgedd arferol o syrcas syfrdanol, bwrlésg bendigedig a drag disglair.
Cadwch lygad ar ddiwedd mis Tachwedd am ein cyhoeddiad am ein tymor Cabaret nesaf.
Os na allwch chi ddewis, beth am roi dewis agored?
![]()
Mae ein talebau rhodd yn ddilys am 18 mis a gellir eu defnyddio ar gyfer unrhyw sioe sydd ar y gweill.
I bobl sy'n dod i'r theatr yn rheolaidd, edrychwch ar ein hopsiynau aelodaeth. Yn dechrau o ddim ond £42 y flwyddyn, maen nhw'n cynnig buddion gwych drwy gydol y flwyddyn, fel blaenoriaeth wrth archebu, gostyngiad o 20% ar fwyd a diod, cynigion arbennig ar docynnau a diweddariadau rheolaidd drwy e-bost.
Os ydych chi'n chwilio am rywbeth gwirioneddol arbennig, mae enwi sedd yn ein hawditoriwm eiconig yn ffordd unigryw a hirdymor o fynegi eich cariad, dangos edmygedd neu ddathlu bywyd.