Mae Chicago, y sioe gerdd fwyaf rhywiol erioed, ‘nôl yng Nghaerdydd yn 2025.
“Murder, greed, corruption, exploitation, adultery and treachery…all those things we hold near and dear to our hearts” – dyna sut mae’r sioe gerdd ryngwladol arobryn Chicago yn dechrau.
Wedi’i osod ymhlith dirywiaeth yr 1920au, Chicago yw stori Roxie Hart, gwraig tŷ a dawnsiwr clwb nos sy’n llofruddio ei chariad ar ôl iddo fygwth ei gadael hi. Yn barod i wneud unrhyw beth i osgoi euogfarn, mae hi’n twyllo’r cyhoedd, y cyfryngau a’i chyd-garcharor Velma Kelly drwy gyflogi cyfreithiwr troseddol mwyaf slic Chicago i drawsnewid ei throsedd faleisus yn gawod o benawdau syfrdanol, sydd ddim yn annhebyg i’r rhai rydyn ni’n eu gweld mewn tabloidau heddiw.
Wedi’i chreu gan ddoniau theatr gerdd John Kander, Fred Ebb a’r coreograffydd enwog Bob Fosse, mae sgôr rhywiol a sosi Chicago, sydd ag un gân stopio sioe ar ôl y llall, yn cynnwys Razzle Dazzle, Cell Block Tango, ac All That Jazz. Gyda chwe Gwobr Tony, dwy Wobr Olivier, Grammy® a miloedd o gymeradwyaethau sefyll, mae Chicago wir yn wych.
Peidiwch â cholli allan, archebwch nawr! Byddai peidio dod yn drosedd...
Canllaw oed: 12+
Noder efallai bydd y perfformiad hwn yn cynnwys rhai goleuadau sy'n fflachio a pyrotechnegau.
Amser cychwyn:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud, yn cynnwys 1 egwyl.
Gall amserlen y cast a pherfformiadau newid heb rybudd. Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.
CYNIG AELODAU
Gostyngiad o £10 ar noson agoriadol (2 bris uchaf). Aelodaeth.
CYNIGION GRŴP
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5, Llun – Iau ar y 2 bris drutaf. Trefnu ymweliad grŵp.
O DAN 16
Gostyngiad o £5. Yn gymwys ar y 2 bris drutaf, Llun – Iau.
16-30
Gostyngiad o £8. Yn gymwys ar y 2 bris drutaf, Llun – Iau.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.