Mae bywyd ar ôl Romeo!
Dewch ar daith anhygoel wrth i Juliet gefnu ar ei diweddglo enwog i gael dechreuad newydd a chyfle arall i fyw a syrthio mewn cariad – yn ei ffordd hi. Wedi’i chreu gan awdur Schitt’s Creek a enillodd wobr Emmy, mae’r sioe gerdd ddoniol yma yn troi sgript y stori gariad fwyaf erioed ar ei phen ac yn gofyn beth fyddai’n digwydd nesaf pe na bai Juliet wedi rhoi pen ar y cwbl oherwydd Romeo?
Ar ôl rhediad rhyfeddol yn y West End yn Llundain, mae & Juliet yn dod i Gaerdydd a fydd yn gwneud i chi ganu, dawnsio a RHUO am fwy. Enillydd tair gwobr Olivier a thair gwobr WhatsOnStage.
'Glorious! You won't find many better nights out'
Mae stori newydd Juliet yn dod yn fyw drwy restr chwarae o anthemau pop, gan gynnwys Baby One More Time gan Britney Spears, Roar gan Katy Perry a chaneuon eraill a gyrhaeddodd frig y siartiau fel Since U Been Gone, It’s My Life, Can’t Stop the Feeling a mwy – i gyd gan Max Martin, y cyfansoddwr caneuon/cynhyrchydd talentog sydd tu ôl i fwy o ganeuon #1 nag unrhyw artist arall y ganrif yma, a’i gydweithredwyr. Anghofiwch olygfa’r balconi a mwynhewch y gomedi ramantus yma sy’n dangos bod bywyd ar ôl Romeo. Yr unig beth trasig fyddai colli allan.
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed) mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb, ac iaith gref
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Amser cychwyn:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys un egwyl)
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: i'w cadarnhau
Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf, nifer cyfyngedig o lefydd). Dod yn aelod.
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £4, grwpiau o 20+ gostyngiad o £5, grwpiau o 10+ gostyngiad o £6, Llun – Gwe (2 bris uchaf). Trefnu ymweliad grŵp. Dyddiad talu grwpiau 29 Tachwedd.
16-30
Gostyngiad o £8 (pris 2-3, Llun, Maw + Gwe).
O DAN 16
Gostyngiad o £4 (2 bris uchaf, Llun – Iau).
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau’r dewis orau o seddi. Efallai bydd prisiau tocynnau’n cael eu haddasu a bydd yn adlewyrchu’r pris presennol ar gyfer pob perfformiad yn seiliedig ar alw. Gall prisiau newid ar unrhyw adeg heb rybudd.