Mae Wicked, un o’r sioeau cerdd mwyaf llwyddiannus erioed, wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd ledled y byd ers dau ddegawd.
Yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus gan Gregory Maguire, mae Wicked yn dychmygu hanes hudolus a phosibiliadau yn y dyfodol i fywydau cymeriadau poblogaidd L. Frank Baum o ‘The Wonderful Wizard of Oz’, ac yn datgelu’r penderfyniadau a’r digwyddiadau sy’n llunio ffawd dwy ffrind prifysgol annhebygol ar eu taith i fod yn Glinda The Good a’r Wicked Witch of the West.
Mae’r sioe gerdd arobryn hon yn hedfan yn ôl i Gaerdydd gyda’r hud sy’n gwneud y cynhyrchiad nodedig hwn yn brofiad mor gofiadwy na ddylid ei golli.
Canllaw oed: 7+ (Dim plant dan 2 oed)
Hyd y perfformiad: tua 2 awr 45 munud yn cynnwys un egwyl
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Mer 30 Hyd + 20 Tach 2.30pm
Iau a Sad 2.30pm (dim matinee Iau 24 Hyd)
Sul 2pm
Sul 27 Hyd 7pm
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: 31ain Hydref, 7.30pm. THEATRESIGN Education, Access & Mentoring Ltd sy’n darparu ein gwasanaethau Iaith Arwyddion Prydain. Y cyfieithydd ar gyfer y perfformiad yma fydd Donna Ruane.
Perfformiad â Chapsiynau (CAP): Gwe 1 Tachwedd 7.30pm
Perfformiad wedi'u Sain Ddisgrifio (AD): Sad 16 Tachwedd 2.30pm
CYNIGION I AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf). Argaeledd cyfyngedig. Ymaelodi.
CYNIGION I GRWPIAU
Grwpiau o 10+, gostyngiad o £5 ar y 2 bris uchaf, Maw i Iau, ac eithrio 29–31 Hyd. Dyddiad talu grwpiau 22 Ebrill 2024. Trefnu ymweliad grŵp.
CYNIGION I BOBL DAN 16
Gostyngiad o £5 ar y 2 bris uchaf, Maw – Iau, ac eithrio 29–31 Hyd. Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
CYNIGION I BOBL DAN 26
Cynnig arbennig i bobl 16–26 oed, gostyngiad o £8 ar ddydd Mawrth 5, 12 + 19 Tachwedd. Argaeledd cyfyngedig, ddim yn gymwys ar gyfer tocynnau pris isaf.
CYNIGION I FYFYRWYR
Gostyngiad o £5, Maw – Iau, ac eithrio 29–31 Hyd.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.