Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Only Fools and Horses

12 – 17 Mai 2025

Theatr Donald Gordon

Gyda seren y byd comedi Paul Whitehouse fel Grandad!

Mae’r Trotters yn ôl ac yn dod i Gaerdydd yn y sioe lwyddiannus Only Fools and Horses The Musical – yn syth o rediad bedair blynedd yn y West End yn Llundain a werthodd allan a thorrodd recordiau – gyda Del Boy, Rodney, Grandad, Cassandra, Raquel, Boycie, Marlene, Trigger, Denzil a Mickey Pearce.

Yn seiliedig ar sioe deledu John Sullivan, mae’r sioe gerdd ysblennydd arobryn yma yn cynnwys rhai o hoff olygfeydd pawb o gyfres deledu fwyaf poblogaidd Prydain. Gyda sgript a sgôr gwreiddiol wedi’u hysgrifennu gan fab John Jim Sullivan a seren y byd comedi Paul Whitehouse, paratowch i ymgyfarwyddo unwaith eto â thwyllwyr mwyaf annwyl Prydain a phrofi’r gomedi yn dod yn fyw ar y llwyfan drwy sgript ddyfeisgar a 20 o ganeuon doniol.

 

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

'Only Fools is a blast from our wide-boy past. A hearty stage adaptation of the 1980s BBC television comedy'

The Sunday Times
Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

'a treat for Trotter fans'

The Daily Mirror

Ymunwch â ni wrth i ni deithio nôl mewn amser, lle mae pethau’n fywiog yn Peckham. Tra bod mewnlifiad ‘yuppie’ Llundain ar ei anterth, mae cariad ar y ffordd wrth i Del Boy gychwyn ar daith i ddod o hyd i’w enaid hoff cytûn, mae Rodney a Cassandra yn paratoi ar gyfer eu priodas, ac mae hyd yn oed Trigger wedi llwyddo i drefnu dêt (gyda pherson!). Yn y cyfamser, mae Boycie a Marlene yn rhoi un cynnig olaf ar fod yn rhieni ac mae Grandad yn pwyso a mesur ei fywyd ac yn penderfynu bod yr amser wedi dod i gael gwared ar ei beils.

Gyda chyfraniadau cerddorol gan Chas & Dave, yr arwyddgan boblogaidd fel nad ydych chi erioed wedi’i chlywed o’r blaen a chasgliad o ganeuon newydd sbon sy’n llawn cymeriad a dengarwch cocni, rydych chi’n siŵr o gael parti! Mae Only Fools and Horses The Musical yn ddathliad teuluol twymgalon o fywyd dosbarth gweithiol traddodiadol yn Llundain yn 1989 a’r dyheadau rydyn ni i gyd yn eu rhannu.

Felly peidiwch ag oedi, rhowch ganiad a mynnwch docyn ar gyfer noson wirioneddol wych – dim ond PLONCER 42 carat fyddai’n colli allan!

Cast pellach i'w gyhoeddi.

Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb, ac iaith gref. 

Amser cychwyn:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: tua 2 awr a 20 munud (yn cynnwys un egwyl)

Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain: i'w cadarnhau

Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf, nifer cyfyngedig o lefydd). Dod yn aelod.

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 (2 bris uchaf, Llun – Iau). Trefnu ymweliad grŵp.

16-30

Gostyngiad o £8 (pris 2-3: Llun, Maw, Mer + Gwe 7.30pm yn unig). 

O DAN 16

Gostyngiad o £10 (2 bris uchaf, Llun – Iau). 

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon