Mae llwyddiant ysgubol y West End TINA – The Tina Turner Musical yn dod i Gaerdydd fel rhan o’i daith gyntaf erioed o’r DU ac Iwerddon.
O ddechrau diymhongar yn Nutbush, Tennessee i’w gyrfa lwyddiannus fel cantores fyd-eang arobryn, roedd Tina Turner ddim yn unig yn torri’r rheolau, ond yn eu hailysgrifennu, gan ennill 12 o wobrau Grammy a gwerthu mwy o docynnau cyngerdd nag unrhyw berfformiwr unigol arall yn hanes cerddoriaeth.
"A powerful tale of Tina that’s simply the best!"
Wedi’i gosod i drac sain nerthol ei chaneuon eiconig, gan gynnwys The Best, What’s Love Got To Do With It?, Private Dancer a River Deep, Mountain High, darganfyddwch y galon a’r enaid tu ôl i Frenhines Roc a Rôl.
Profwch ei stori ysbrydoledig yn fyw ar y llwyfan wrth i’r dathliad bywiog yma ddatgelu hanes heb ei ddweud menyw a oedd yn mentro breuddwydio’n ffyrnig, chwalu rhwystrau a herio terfynau oed, rhywedd a hil i ennill calon y byd er gwaethaf pob disgwyl.
Wedi’i chyflwyno mewn cysylltiad â Tina Turner, ei hysgrifennu gan y dramodydd sydd wedi ennill gwobr Olivier a Pulitzer, Katori Hall (The Mountaintop) a’i chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr rhyngwladol llwyddiannus Phyllida Lloyd (Mamma Mia!), peidiwch â cholli’r sioe pum-seren yma.
"This joyful, lung-bursting show is simply the best"
Canllaw oed: 14+ (dim plant dan 2 oed)
Rhybuddion: Mae'r cynhyrchiad yma yn cynnwys golygfeydd sy'n portreadu trais domestig, iaith hiliol, iaith gref, cerddoriaeth uchel, goleuadau strôb, tawch ac ergydion gwn
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 45 munud (yn cynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf). Argaeledd cyfyngedig. Ymaelodi.
GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5, Llun – Iau (2 bris uchaf). Dyddiad talu grwpiau 7 Ebrill 2025. Trefnu ymweliad grŵp
O DAN 16
Gostyngiad o £5 (2 bris uchaf)
16–30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol (Llun-Gwe)
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.