Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Grease The Musical

2 – 7 Medi 2024

Theatr Donald Gordon

Mae sioe gerdd fwyaf poblogaidd y byd yn ôl! Yn fwy real a glamoraidd nag erioed o’r blaen.

Ar ôl rhamant haf brysiog, mae’r carwr lledr Danny a’r ferch drws nesaf Sandy yn cwrdd eto yn annisgwyl pan mae hi’n trosglwyddo i Rydell High. Allan nhw oroesi treialon a thrallodion bywyd arddegwyr a dod o hyd i wir gariad unwaith eto.

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

‘YES... GREASE STILL IS THE WORD'

South Wales Echo

Gyda’i sgôr rhyfeddol, yn llawn caneuon poblogaidd gan gynnwys Summer Nights, Greased Lightnin’, Hopelessly Devoted to You ac You’re the One That I Want, daw’r fersiwn newydd cyffrous yma yn fyw gyda chast ifanc ffres sy’n dod ag egni, bywiogrwydd ac angerdd i’r clasur cerddorol yma.

Wedi’i chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Curve, Nikolai Foster, ailgynnwch eich angerdd a pharatowch am ffrwydrad o gariad hafaidd. 

Felly ffoniwch eich Burger Palace Boys a’ch Pink Ladies a dewch i ailddarganfod pam mae Grease yw’r sioe berffaith y tymor yma!

Llyfr, Cerddoriaeth a Geiriau gan Jim Jacobs + Warren Casey. Cyfarwyddwyd gan Nikolai Foster. Coreograffi gan Arlene Phillips

Canllaw oed: 3+ (ddim plant dan 2 oed)
Nodwch os gwelwch yn dda: rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn. Gall y cynhyrchiad hwn gynnwys iaith anweddus.

Amser dechrau:
Llun – Sad 7.30pm 
Iau + Sad 2.30pm 

Hyd y perfformiad: tua 2 awr 30 munud (yn cynnwys un egwyl)

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf, nifer cyfyngedig o lefydd)

Aelodaeth

GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £3, Llun – Iau

Trefnu ymweliad grŵp

O DAN 16

Gostyngiad o £4, Llun – Iau (2 bris uchaf)

16-30

Gostyngiad o £8 Llun – Iau 7.30pm (4 pris uchaf)

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon