Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Cast Hamilton ar y llwyfan

Sioeau Anhygoel i'w Gweld yn 2024

Dechreuwch y flwyddyn newydd yn y ffordd iawn drwy archebu tocynnau i weld un o'n sioeau rhyfeddol. O sioeau cerdd i ddrama, dawns i opera, mae'n siŵr bydd gennym rywbeth y byddwch chi'n ei fwynhau yn ystod blwyddyn ein pen-blwydd yn ugain oed.

DRAMA 

Ym mis Mai bydd Michael Sheen yn chwarae'r brif ran yng nghyd-gynhyrchiad y National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru Nye, a fydd yn daith swreal ac ysblennydd drwy fywyd a gwaddol y dyn a drawsnewidiodd y wladwriaeth les. 

SIOEAU CERDD

Wedi’i lwyfannu’n wreiddiol gan Regent’s Park Open Air Theatre yn Llundain, enillodd y cynhyrchiad newydd o Jesus Christ Superstar wobr Olivier yn 2017 am ‘Best Musical Revival’ ac mae'n dod i'n Theatr Donald Gordon y mis yma. 

Yn ddiofn, yn ddigywilydd ac yn ddeniadol, mae gan y cynhyrchiad arobryn o Bonnie & Clyde nifer mawr o ddilynwyr, yn debyg i’r pâr drwgenwog eu hunain, a nawr maen nhw’n dod i ysgubo i mewn i Gaerdydd ym mis Mawrth.

Mae Come From Away yn rhannu stori go iawn anhygoel y 7,000 o deithwyr awyr o bedwar ban byd a gafodd eu hailgyfeirio i Ganada yn sgil 9/11.

Mae Wicked yn hedfan yn ôl i Gaerdydd ym mis Hydref gyda’r hud sy’n gwneud y cynhyrchiad nodedig hwn yn brofiad mor gofiadwy na ddylid ei golli.

Mae ffenomenon diwylliannol arobryn Lin Manuel Miranda Hamilton yn dod ar gyfer Nadolig 2024. Mae’r sgôr yn cyfuno hip-hop, jazz, blues, rap, R&B a Broadway.

Sioeau teuluol

Mae'r sioe gerdd bob rymusol Fantastically Great Women Who Changed the World yn dod i'n Theatr Donald Gordon y mis yma, yn seiliedig ar y llyfr poblogaidd i blant gan berthynas i un o’r Swffragetiaid, Kate Pankhurst. 

Mae cerddoriaeth, chwerthin, odlau, rhythmau ac ailadrodd ynghyd â phypedwaith, paent, dŵr a mwd yn gwneud We're Going on a Bear Hunt yn brofiad theatraidd perffaith i deuluoedd ifanc. 

Ym mis Mawrth ymunwch â’r teulu Heeler yn Bluey's Big Play, eu sioe theatr fyw gyntaf sydd wedi’i chreu yn arbennig i chi. Dyma Bluey fel erioed o’r blaen.

Dawns

Mae Matthew Bourne a’i gwmni New Adventures yn dychwelyd ym mis Mawrth gydag Edward Scissorhands, y stori ffraeth a theimladwy am fachgen anorffenedig yn cael ei adael ar ei ben ei hun mewn byd newydd rhyfedd.

Yn dilyn eu taith Peaky Blinders lwyddiannus, Death Trap yw eich cyfle nesaf i weld dawnswyr campus a beiddgar Rambert mewn dau ddarn byr a grëwyd iddyn nhw gan Ben Duke.

Opera

Yn eu Tymor y Gwanwyn, mae Opera Cenedlaethol Cymru yn eich cymryd chi yn ôl i’r ysgol gyda chynhyrchiad newydd sbon o opera gomig Mozart, Così fan tutte neu Yr Ysgol i Gariadon

P'un a ydych yn frwd dros opera neu’n awyddus i roi cynnig arni, cymerwch sedd ar gyfer Ffefrynnau Opera ac ymunwch â WNO ar daith drwy rai o’r darnau mwyaf adnabyddus yn y byd operatig.

Mae Death in Venice, opera llawn awyrgylch Britten, yn dod yn fyw mewn cynhyrchiad newydd gan WNO, gan greu delweddau o brydferthwch cyfareddol, yn ogystal ag archwilio’r grotésg sy’n gudd o dan geisio’r aruchel.

Comedi

Yn dilyn eu llwyddiant arobryn gyda The Play That Goes Wrong  a’r gyfres deledu ar y BBC The Goes Wrong Show, mae Mischief yn dychwelyd gyda llwyddiant ysgubol y West End Peter Pan Goes Wrong.

Ym mis Mawrth am un noson yn unig mae gennym Buffy RevampedYn ddoniol, yn ddychanol ac yn llawn cyfeiriadau at ddiwylliant-bop y 90au, dyma’r parodi perffaith ar gyfer arbenigwyr ar Buffy a’r rhai na gofrestrodd yn Sunnydale High erioed.

Digrifwr rap dull rhydd arobryn yw MC Hammersmith, sy'n dod i Cabaret ym mis Mai. Fe yw rapiwr gangsta mwyaf blaenllaw’r byd i ddod o geto dosbarth canol gorllewin Llundain.

Un noson yn unig

Ym mis Chwefror, dewch i gwrdd â'r Carrie Bradshaw go iawn! Bydd Candace Bushnell yn mynd â ni ar daith frysiog o Efrog Newydd, gan rannu ei hathroniaeth nodedig drwy straeon am ffasiwn, llenyddiaeth... ac, wrth gwrs, rhyw.

Ar 10 Mawrth darganfwyddwch pam mae David Suchet mor adnabyddus, nid yn unig am chwarae’r rôl, ond am fabwysiadu personoliaethau rhai o gymeriadau mwyaf diddorol y teledu, ffilm a theatr yn Poirot and More: A Retrospective.

Os gwnaethoch chi golli allan ar docynnau i weld y dyn ei hun yng Nghaerdydd, neu am gael rhagflas ymlaen llaw, ar 23 Ebrill ymunwch â ni ar gyfer The Billy Joel Songbook, teyrnged i un o gerddorion mwyaf eiconig yr ugeinfed ganrif.

Mae hefyd gennym ddau gyngerdd anhygoel i bobl sy'n hoff o theatr gerdd – mae seren swyddogol Disney Lea Salonga yn dod â’i thalent eithriadol i'n Theatr Donald Gordon ar 25 Mehefin gyda'i thaith Stage, Screen & Everything In Between, a bydd Carrie Hope Fletcher – Love Letters yn archwilio pob math o gariad drwy gymysgedd o glasuron syfrdanol o sioeau cerdd.

Yn dwli ar theatr? Ymaelodwch i gael y seddi gorau yn yr awditoriwm yn ogystal â gostyngiadau ar fwyd a diod a chynigion arbennig ar docynnau.